Gwasanaeth i Ddioddefwyr Dyfed Powys

Ffoniwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol ar 0300 123 2996.

Rydym yn rhoi cymorth cyfrinachol, am ddim i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd ar draws Dyfed Powys. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen annibynnol. Gallwch gysylltu â ni am gymorth p’un a ydych chi wedi cysylltu â’r heddlu ai peidio, a does dim gwahaniaeth pa mor hir yn ôl y cafodd y drosedd ei chyflawni.

Logo - Dyfwed Powys
Dyfed Powys on map

Mynnwch gymorth

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd yn Nyfed Powys, ffoniwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol ar 0300 123 2996.

Beth ydym yn ei wneud?

Mae Gwasanaeth i Ddioddefwyr Dyfed Powys yma i gefnogi unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan drosedd, nid yn unig dioddefwyr, ond eu ffrindiau, eu teulu ac unrhyw bobl eraill sy’n gysylltiedig.

Cefnogaeth arbenigol

Ein gweithwyr achos arbenigol

Gallwn eich helpu chi i edrych ar eich opsiynau, eich grymuso chi, ac esbonio’ch hawliau fel dioddefwr.

Two men talking

Sefydliadau defnyddiol yn Nyfed Powys

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau partner ar draws Dyfed Powys i sicrhau’ch bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.

My Support Space

Cofrestrwch ar gyfer ein hadnodd ar-lein rhad ac am ddim sy’n gadael i chi ddewis sut rydych chi am gael eich cefnogi ar ôl trosedd.