Mynnwch gymorth yn Nyfed Powys

Ffoniwch ni

Os yw trosedd wedi effeithio arnoch chi, ffoniwch eich Gwasanaeth Dioddefwyr Dyfed Powys lleol ar 0300 123 2996. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 6pm.

Os oes angen cymorth ffôn arnoch y tu allan i’n horiau agor, gallwch ffonio ein Llinell Gymorth am ddim ar 08 08 16 89 111 . Mae’r Llinell Gymorth ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Ewch ar-lein

Mae ein gwasanaeth cymorth sgwrs fyw rhad ac am ddim ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Ebostiwch ni ar: dyfed.powys@victimsupport.org.uk

Gallwch hefyd ofyn am gymorth drwy’r wefan. Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith.

Adnodd ar-lein yw ‘My Support Space’ a gynhyrchwyd ac sy’n eiddo i Gymorth i Ddioddefwyr. Mae fersiwn gwefan ac ap ‘My Support Space’. Mae’n ofod diogel a chyfrinachol am ddim sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i reoli’r effaith y mae trosedd wedi’i chael arnoch chi. Gall eich helpu i deimlo’n fwy gwybodus ar ôl trosedd, i fyfyrio ar eich teimladau, ac mae ganddo awgrymiadau i gynnal eich hun yn ystod cyfnod anodd.

Cumbria landscape

Mynnwch gymorth

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd yn Nyfed Powys, ffoniwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol ar 0300 123 2996.

Cymorth pellach yn Nyfed Powys

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn Nyfed Powys i sicrhau’ch bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.