
Beth yw Gwasanaeth i Ddioddefwyr Dyfed Powys?
Rydym yn dîm o bobl ofalgar a thosturiol sydd yma i gefnogi dioddefwyr troseddau.
Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerfyrddin ond yn cwmpasu Canolbarth a Gorllewin Cymru i gyd.
Gallwn eich cefnogi heb gynnwys y system cyfiawnder troseddol. Ni fyddwn yn cysylltu â nhw amdanoch chi oni bai ein bod yn teimlo bod rhywun mewn perygl.
Does dim rhaid i’r drosedd fod wedi digwydd yn ddiweddar. Os oeddech chi wedi dioddef trosedd yn hanesyddol, byddwn ni yma i chi o hyd. Weithiau mae pethau’n digwydd i chi a dydych chi ddim yn sylweddoli y gallai cymorth helpu tan yn ddiweddarach.
Beth ydym yn ei wneud?
Mae Gwasanaeth Dioddefwyr Dyfed Powys yma i gefnogi unrhyw un y mae trosedd yn effeithio arnynt, nid yn unig dioddefwyr, ond eu ffrindiau, teulu ac unrhyw bobl eraill sy’n gysylltiedig.
Gan ein bod yn annibynnol, gallwch siarad â ni p’un a wnaethoch riportio’r drosedd i’r heddlu ai peidio.
Y cymorth y gallwn ei gynnig
Gall siarad ag un o’n cefnogwyr eich helpu i ddelio â’ch teimladau ar ôl trosedd. Fodd bynnag, yn aml mae problemau ymarferol a all eich atgoffa o’r hyn yr ydych wedi bod drwyddo. Gall y rhain ei gwneud yn anoddach cael eich bywyd yn ôl dan reolaeth.
Dyna pam rydym hefyd yn cynnig help i ddatrys effeithiau ymarferol bod yn ddioddefwr.
Mae gan ein staff fynediad at adnoddau a allai wneud gwahaniaeth i’ch bywyd a’ch helpu i ymdopi a symud ymlaen o’ch profiad.
Gallwn hefyd help hefo eiriolaeth tai neu ddelio â’r system cyfiawnder troseddol cyn neu ar ôl y llys.
Os oes angen cymorth arbenigol arnoch nad ydym yn meddwl y gallwn ei ddarparu, gallwn gysylltu ag asiantaethau eraill i helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch.
Rydym yn gweithio’n agos gydag ystod eang o sefydliadau eraill sydd ag arbenigedd an all eich helpu gyda llawer o sefyllfaoedd a achosir gan drosedd.

Mynnwch gymorth
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd yn Nyfed Powys, ffoniwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol ar 0300 123 2996.
Cymorth pellach yn Nyfed Powys
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn Nyfed Powys i sicrhau’ch bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.