Ein gweithwyr achos arbenigol

Gweithiwr achos anghenion cymhleth

Mae ein gweithiwr achos anghenion cymhleth yma i gefnogi unrhyw un a allai fod ag anghenion lluosog a chymhleth ar ôl profi trosedd.

Gallwn eich helpu chi i edrych ar eich opsiynau, eich grymuso chi, ac esbonio’ch hawliau fel dioddefwr.

Gweithiwr achos cam-drin domestig

Mae ein gweithiwr achos cam-drin domestig yma i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig waeth pa mor hir yn ôl y digwyddodd y drosedd. Gallwn eich helpu chi yn y cyfnod yn arwain at achos llys neu ar ôl dedfrydu. Gallwch chi hefyd gyrchu ein cymorth os nad ydych chi eisiau adrodd y drosedd wrth yr heddlu.

Gweithiwr achos trosedd casineb

Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn ariannu gweithiwr achos trosedd casineb a all gynnig cymorth cyfrinachol, annibynnol am ddim i holl ddioddefwyr trosedd casineb. Mae hyn yn cynnwys cynnig cymorth uniongyrchol i bobl ifanc 13 a hŷn.

Trosedd casineb yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio digwyddiad neu drosedd yn erbyn rhywun ar sail rhan o’u hunaniaeth.

Mae pum categori ‘hunaniaeth’ pan fydd person yn cael ei dargedu:

  • anabledd
  • hil neu ethnigrwydd
  • crefydd neu gred (sy’n cynnwys dim cred)
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hunaniaeth trawsryweddol.

Mae Cymorth i Ddefnyddwyr hefyd yn cydnabod troseddau wedi’u targedu at is-ddiwylliannau amgen (megis Goth) fel ffurf ar drosedd casineb.

Mae ein gweithiwr achos trosedd casineb pwrpasol yn ymwybodol y gall effeithiau trosedd casineb bara am oes, a bydd llawer o bobl yn ei chael yn fuddiol siarad â rhywun sy’n deall. Dyna pam ein bod ni yma i wrando, i gefnogi ac i rymuso dioddefwyr i wybod eu hawliau ac adrodd am y troseddau hyn.

Gall ein Canolfan Cymorth Casineb Cymru adrodd am droseddau yn uniongyrchol wrth yr heddlu ar eich rhan a gall eich cefnogi chi trwy’r broses ymchwilio.

Gweithiwr achos plant a phobl ifanc

Gall ein gweithiwr achos plant a phobl ifanc gynnig cymorth uniongyrchol i unrhyw un sy’n iau na 18 sydd wedi’u heffeithio gan drosedd. Gall ein gweithiwr achos gynnig cymorth un-i-un ym mha bynnag leoliad sy’n gyfforddus i chi megis yn rhithwir (e.e galwad fideo), neges destun neu WhatsApp, neu yn bersonol. Gallwn helpu i feithrin hyder a gwydnwch ar ôl trosedd a’ch rhoi mewn cysylltiad ag asiantaethau cymorth ehangach.

Mynnwch gymorth

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd yn Nyfed Powys, ffoniwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol ar 0300 123 2996.

Cymorth pellach yn Nyfed Powys

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn Nyfed Powys i sicrhau’ch bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.