
Ein tîm
Mae ein gweithwyr achos yma i gefnogi unrhyw un sydd angen cymorth a chefnogaeth ar ôl profi trosedd.
Gallwn ni eich helpu chi i edrych ar eich opsiynau, eich grymuso, ac egluro eich hawliau fel dioddefwr.
Mae gennym hefyd arbenigwyr yn y tîm ym maes:
- twyll,
- cam-drin domestig,
- pobl hŷn
- lechyd meddwl
- ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gweithiwr Achos Plant a phobl ifanc.
Gweithiwr achos plant a phobl ifanc
Gall ein gweithiwr achos plant a phobl ifanc gefnogi unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd. Mae’r cymorth yma ar gael i unrhyw berson o dan 18 oed. Yn ogystal a darparu cefnogaeth un-i-un mewn unrhyw leoliad. Mae’n bosibl trefnu sesiwn wyneb yn wyneb, galwad fideo drwy neges destun neu WhatsApp. Byddwn yn ceisio helpu i feithrin hyder a gwytnwch ar ôl profi trosedd a rhoi chi mewn cysylltwch ag asiantaethau cymorth ehangach.
Gweithiwr achos trosedd casineb
Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn ariannu gweithiwr achos troseddau casineb Dyfed Powys an all ddarparu cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim i holl ddioddefwyr troseddau casineb. Mae hyn yn cynnwys cynnig cymorth uniongyrchol i bobl ifanc 13 oed a throsodd.
Mynnwch gymorth
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd yn Nyfed Powys, ffoniwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol ar 0300 123 2996.
Cymorth pellach yn Nyfed Powys
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn Nyfed Powys i sicrhau’ch bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.