
Sefydliadau defnyddiol yn Nyfed Powys
Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau partner ar draws Dyfed Powys i sicrhau’ch bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Dysgwch fwy am rai o’r gwasanaethau a’r sefydliadau yr ydym yn gweithio â nhw.
Sylwch, nid yw Cymorth i Ddioddefwyr yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti.
Mae Dewis Cymru yn cynnig cyfeiriadur o wasanaethau cymorth sydd wedi’u teilwra i’r cymorth sydd ei angen arnoch chi.
Mae’r gwasanaeth hwn yn mynd i’r afael â diogelwch dioddefwyr sydd wrth risg uchel o niwed gan bartneriaid personol, cyn-bartneriaid neu aelodau’r teulu, gan gynnwys sicrhau’ch diogelwch chi a diogelwch eich plant ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.