Sgwrsio byw
Os oes angen cymorth arnoch yn dilyn trosedd, gallwch chi sgwrsio ag un o’n cefnogwyr sydd wedi’u hyfforddi. Mae sgwrsio byw yn wasanaeth di-dâl sydd ar gael i bobl y mae troseddu wedi effeithio arnynt yng Nghymru a Lloegr, 24 awr y dydd a saith diwrnod yr wythnos. I ddechrau sgwrs fyw, dewiswch y botwm ‘Sgwrsio nawr’ isod. Os oes angen cymorth pellach arnoch chi, gallwch chi:
- Ddod o hyd i gymorth yn agos atoch chi. Nodwch, oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, nid ydym yn darparu cymorth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd, ond mae ein timau lleol yn dal ar gael i ddarparu help a chyngor o bell.
- Gofyn am gymorth ar-lein
- Creu cyfrif ar My Support Space – adnodd ar-lein di-dâl sy’n cynnwys canllawiau rhyngweithiol a gwybodaeth i’ch helpu chi i reoli’r effaith y mae’r drosedd wedi’i chael arnoch chi.
- Ein ffonio ni ar rhadffôn 08 08 16 89 111.
Mae rhai pobl yn cael trafferthion wrth ddefnyddio IE11; os cewch chi’r drafferth yma, rhowch gynnig ar borwr gwahanol – er enghraifft, Google Chrome.