Gwasanaeth i Ddioddefwyr Dyfed Powys
Ffoniwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol ar 0300 123 2996.
Rydyn ni’n rhoi cymorth cyfrinachol am ddim i bobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd ar draws Dyfed Powys. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen annibynnol. Gallwch gysylltu â ni am gymorth p’un a ydych wedi cysylltu â’r heddlu ai peidio, ac ni waeth pa mor hir yn ôl y digwyddodd y drosedd.


Mynnwch gymorth
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd yn Nyfed Powys, ffoniwch eich tîm gofal dioddefwyr lleol ar 0300 123 2996.